Sl(5)374 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Cefndir a Diben
Mae Cyfarwyddeb 2000/29/EC y Cyngor (“y Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion”) yn sefydlu cyfundrefn iechyd planhigion yr UE. Mae’r Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion yn cynnwys mesurau i’w cymryd er mwyn atal plâu difrifol a chlefydau planhigion a chynnyrch planhigion rhag cael eu cyflwyno i’r UE a’u lledaenu ynddi.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yn y ddeddfwriaeth ddomestig a ganlyn, sy’n gweithredu Cyfarwyddeb yr UE 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn iechyd planhigion (coedwigaeth) sy’n codi o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r UE mewn senario ‘dim cytundeb’:
· Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005
· Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002
· Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
Gweithdrefn
Cadarnhaol.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
· Nid yw’r rhagarweiniad i’r Rheoliadau hyn yn dyfynnu’r pwerau galluogi yn gywir. Mae’r pŵer cyntaf a ddyfynnir yn Adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn bŵer Ysgrifennydd Gwladol, felly mae’r dyfyniad yn anghywir. Yr ail bŵer a ddyfynnir yw Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fodd bynnag er mwyn eglurder dylai’r dyfyniad hwn fod yn fwy manwl gywir wrth gyfeirio at y pŵer penodol yn yr Atodlen honno.
2. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Yn y geiriau cyn Rheoliad 2, mae “Material” wedi cael ei adael allan o’r cyfeiriad at Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002 [pwyslais wedi’i ychwanegu].
3. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Mae rheoliad 4(a) o’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r diffiniadau o “solid fuel wood” ac “OPM protected zone” o Erthygl 2(1) Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005. Fodd bynnag, dim ond mewn perthynas â Lloegr a’r Alban y mae’r termau hyn yn berthnasol (cafodd ei fewnosod yng Ngorchymyn 2005 gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2016 a Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2018 yn y drefn honno).
4. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Mae rheoliad 4(e) o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Erthygl 2(5) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005. Fodd bynnag, dim ond mewn perthynas â Lloegr a’r Alban y mae paragraff (5) yn gymwys (cafodd ei fewnosod yng Ngorchymyn 2005 gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2016).
5. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Yn Rheoliad 18(c) dylid cynnwys ”or” fel rhan o’r geiriau sy’n cael eu mewnosod. Dylai geiriad y Rheoliad ddarllen “in paragraph (B1)(a) or”[pwyslais wedi’i ychwanegu].
6. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Mae rheoliad 30 yn cynnwys dau gyfeiriad at Erthygl 6(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005. Fodd bynnag, caiff Erthygl 6(1) ei dirymu gan Reoliad 10(c) o’r Rheoliadau hyn. Felly nid yw’n glir pa ddarpariaeth y cyfeirir ati.
7. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Mae rheoliad 30 yn cynnwys dau gyfeiriad at Erthygl 12(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005. Fodd bynnag, caiff Erthygl 12(1) ei dirymu gan Reoliad 18(b) o’r Rheoliadau hyn. Felly nid yw’n glir pa ddarpariaeth y cyfeirir ati.
8. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
· Mae Rheoliad 50(b) yn cynnwys gwall teipograffyddol. Dylai’r ail linell ddechrau gyda ”place” yn hytrach na “pace”.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
13 Mawrth 2019